Amdanom Ni
Sefydlwyd y cwmni yn 1968. Bryd hynny roedd yn fusnes masnachu glo yn iard nwyddau rheilffordd yng Ngaerwen lle roedd glo yn cael ei gyflenwi 6 niwrnod yr wythnos trwy gydol y flwyddyn. Fe gafodd y cwmni enw da yn fuan am gyflenwi nwyddau o safon uchel ac am ddarparu lefel gwasanaeth uchel. Roedd ei gwsmeriaid, yn eu tro, yn argymell y cwmni i eraill.
Er mwyn ymateb i’r lleihad a welwyd yn y defnydd o lo i gynhesu cartrefi yn y 1990au ac i fodloni anghenion newydd ei gwsmeriaid, fe benderfynodd y cwmni fyned i’r fasnach Olew Gwersogi yn 1998 a phrynwyd tancar pedair olwyn.
Unwaith eto, lledaenodd enw da y cwmni am wasanaeth a gwerth am arian/brisiau cystadleuol ac erbyn heddiw mae fflyd o 6 cherbyd yn barod i gyflenwi tanwydd i'r cwsmeriaid.
Cofrestru
Creu enw defnyddiwr a chyfrinair i gael mynediad i’r safle
Creu Eich Cyfrif
Rhowch eich manylion bilio a chyflenwi neu rif eich cyfrif a côd post yn unig os ydych yn gwsmer gyda ni’n barod.
Cael Pris
Derbyn pris ar-lein yn syth yn seiliedig ar eich cyfeiriad cyflenwi.
Dewisiwch Ffurf Taliad
Talwch gyda cherdyn credyd neu ddebyd gan ddefnyddio secure server neu dalwch gan ddefnyddio cytundeb debyd uniongyrchol cyfredol neu ar gyfrif i gwsmeriaid presennol.